Er cof am ein cydweithiwr: Andrew Ireland

20 Jun 2023

Mae The Wallich yn hynod o drist o orfod cyhoeddi bod Andrew Ireland, un o’i aelodau staff ers amser maith, wedi marw

Bu farw Andrew ddydd Sul 28 Mai wrth gystadlu mewn digwyddiad yr oedd yn teimlo’n angerddol yn ei gylch, sef Triathlon Abertawe 2023.

Mae’r newyddion wedi cael cryn sylw yn y penawdau cenedlaethol ac roedd yn sioc i’w deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi estyn eu cydymdeimlad.

Mae’r deyrnged hon yn cael ei hysgrifennu gan dîm Andrew a’i gydweithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Roedd Andrew yn gymeriad hynod o boblogaidd fel Rheolwr Ardal ar gyfer gwasanaethau The Wallich ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd wedi ymroi dros 15 mlynedd i ddarparu, datblygu a rheoli cyfoeth o wasanaethau digartrefedd ledled y sir.

Mae’n golled enfawr i’w deulu a’i ffrindiau, ac i bawb y bu’n gweithio gyda nhw yn The Wallich.

Mae’n ddrwg iawn gennym rannu’r newyddion hwn â phawb a oedd yn ei adnabod.

Gwaith Andrew yn The Wallich

Er ei fod yn un o hoelion wyth Pen-y-bont ar Ogwr, dechreuodd Andrew yn y Lloches Nos ac yn Hostel Syr Julian Hodge yng Nghaerdydd yn 2007 cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr.

textimgblock-img

Roedd yn wych yn y Lloches Nos ac roeddech chi’n gwybod ar unwaith ei fod yn berson arbennig. Roedd wir eisiau cymryd rhan a newid pethau er gwell.

Yna, dechreuodd weithio fel swyddog cefnogaeth hyblyg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle treuliodd sawl blwyddyn yn cefnogi pobl yn eu cartrefi i atal digartrefedd ac i fyw bywydau hapus a chyflawn.

Aeth Andrew yn ei flaen i fod yn Rheolwr Prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyn ymgymryd â swydd Rheolwr Ardal yn 2021.

Roedd Andrew yn arweinydd cefnogol, ymroddedig ac ysbrydoledig i’w dîm a’i gydweithwyr, roedd gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr barch mawr ato ac roedd yn frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o bobl y bu’n gweithio gyda nhw yn ystod ei gyfnod gyda The Wallich.

Roedd yn hynod effeithlon ac eisiau gwella ein darpariaeth, roedd bob amser eisiau gwneud y gorau a datrys problemau.

Helpodd i ddatblygu’r prosiectau, fel ABBA Pen-y-bont ar Ogwr a dod â’r prosiect MAC drws nesaf i’n hadeilad galw heibio ar Stryd y Parc. Roedd bob amser yn meddwl am y dyfodol.

Roedd pawb yn ei barchu, roedd yn gwrando ar bobl ac yno iddyn nhw.

Roedd Andrew yn aml yn yr adeilad cyn pawb arall ac ni fyddai byth yn gadael am ei fod yn 5 o’r gloch.

Yn ystod COVID, roedd yno bob diwrnod. Byddai bob amser yn camu i mewn i lenwi gwasanaethau, doedd dim byd yn ormod o drafferth.

textimgblock-img

Roedd Andrew yn gweithio’n dda mewn tîm ac roedd ganddo lawer o amser i sgwrsio â staff.

Roedd yn parchu ei holl dimau ac roedd bob amser yn rhoi adborth ac yn tynnu sylw at ba mor anhygoel oedd ei dimau.

Roedd yn canolbwyntio ar fanylion ac roedd bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu. Roedd bob amser yn garedig.

Ar lefel bersonol

Roedd ei ddrws bob amser ar agor ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oedd aelodau ei dîm yn ei wneud yn eu hamser hamdden.

Roedd ganddo lawer o ddiddordebau personol, ond yn benodol: teithio a chwaraeon.

textimgblock-img

Roedd ganddo fap yn nodi i ble’r oedd wedi teithio ac roedd wedi teithio’r rhan fwyaf o hemisffer y gogledd.

Pryd bynnag y gallai, roedd yn mynd i deithio gyda’i deulu ac yn mynd ar wyliau pêl-droed.

Aeth i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd, ac roedd yn mynd i bob gêm Cymru (gartref ac oddi gartref).

Roedd hefyd yn un o gefnogwyr Dinas Caerdydd, ac roedd yn arwain llawer o’r teithiau oddi gartref.

Roedd yn berson y gallech ymddiried ynddo ac yn uchel ei barch.

Roedd gan Andrew synnwyr digrifwch sych iawn.

Fel un o gefnogwyr Dinas Caerdydd, roedd llawer o dynnu coes gyda chefnogwyr Abertawe yn y tîm.

Roedd hefyd yn hynod gystadleuol, bob amser yn ceisio gwella yn y gwaith ac yn ei fywyd personol.

Pan nad oedd yn ceisio cael cyfiawnder a grym i bobl y mae The Wallich yn eu cefnogi, roedd yn ceisio gwella ei allu ym maes chwaraeon.

Mae colled Andrew i’w deimlo’n fawr ar draws cymunedau The Wallich ac yn enwedig ymysg y rheini a oedd yn gweithio’n agos gydag ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ond, byddwn yn ymdrechu i barhau â’i waith cadarnhaol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i anrhydeddu. 

Tudalennau cysylltiedig