Lansio prosiect i gefnogi merched Cymru sy’n gadael y carchar

05 May 2022

Cyflwyno Canolfan Fenywod ONE newydd: Mae The Wallich yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Nelson a phartneriaid eraill i sefydlu dull newydd o gefnogi menywod ag euogfarnau yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Nelson, elusen gaethiwed ac adfer, yn arwain y gwaith o gynllunio a datblygu cynllun peilot newydd arloesol, i sefydlu canolfan fenywod i gefnogi menywod sy’n gadael Carchar ei Mawrhydi Eastwood Park ac sy’n dychwelyd i Gymru a De Orllewin Lloegr.

Bydd The Wallich yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect, gan weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol gan gynnwys Pobl, Change Grow Live, Cymru Ddiogelach a Chynghrair Menywod Peninsula.

Ariennir y cynllun peilot gan Gronfa Arweinyddiaeth ac Integreiddio Lleol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Canolfan Fenywod ONE

Mae’r Ganolfan yn bwriadu cyrraedd o leiaf 400 o fenywod yn ystod ei chynllun peilot 12 mis.

Hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru a Lloegr a bydd yn mabwysiadu dull ‘un tîm’ o gefnogi menywod sy’n gadael carchar, gan gydgysylltu gwasanaethau’r sector statudol a gwirfoddol.

Bydd Canolfan Fenywod ONE yn cefnogi menywod drwy ddarparu lleoliad ar gyfer darpariaeth benodol ar gyfer gwella’r broses gyfathrebu, gan annog ffyrdd mwy effeithiol o alluogi aelodau o’r teulu i rannu pryderon am iechyd a lles eu hanwyliaid tra byddant yn y carchar.

Fel y cydnabu adolygiad yr Arglwydd Farmer yn 2019 am y ddarpariaeth ar gyfer menywod, mae carcharorion benywaidd yn wynebu heriau gwahanol iawn i’w cymheiriaid gwrywaidd ac yn aml yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol o ganlyniad i dlodi, digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.

Rôl The Wallich fydd darparu ystod o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gynyddu llwybrau i fenywod gael mynediad i gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg; grymuso menywod i fyw bywydau cadarnhaol ac iach yn dilyn trawma a bod yn gaeth i gyffuriau/sylweddau.

Bydd y tîm yn cynnwys Mentoriaid Cymheiriaid penodedig a fydd yn cefnogi unigolion drwy’r broses adsefydlu ac yn eu harwain tuag at fywyd mwy cadarnhaol, drwy ddefnyddio eu profiad personol o’r system cyfiawnder troseddol.

Menywod a’r system cyfiawnder troseddol

Mae Carchar ei Mawrhydi Eastwood Park yn derbyn menywod o Dde-orllewin Lloegr a Chymru.

Nid oes unrhyw garchardai i fenywod yng Nghymru ar hyn o bryd.

O ganlyniad, mae menywod o Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, dros 100 milltir i ffwrdd oddi wrth eu cartrefi a’u teuluoedd.

Mae gan y rhan fwyaf o fenywod yn y carchar hanes o drawma, cam-drin ac erledigaeth, gyda llawer yn treulio eu dedfrydau am droseddau sy’n llai difrifol na’r rhai a gyflawnwyd yn eu herbyn.

Mae tua hanner y carcharorion benywaidd yn famau. Gall hyn gael effaith ddinistriol yn y tymor hir ar iechyd a lles eu plant, gan arwain at gylchoedd o drawma, cam-drin a throseddu sy’n pontio’r cenedlaethau.

Profiad The Wallich gyda’r system cyfiawnder troseddol

Mae prosiect BOSS (Building Opportunities, Skills and Success) The Wallich yn rhaglen gyflogadwyedd a lles ledled De Cymru ar gyfer pobl â chefndiroedd troseddol.

Mae The Wallich wedi ymrwymo i chwalu’r rhwystrau i gyflogaeth oherwydd cofnod troseddol drwy weithio ochr yn ochr â chyflogwyr i gael mynediad at gronfa o dalent amrywiol a brwdfrydedd.

Ers 2018, mae prosiect BOSS The Wallich wedi gweithio gyda mwy na 100 o fenywod sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol.

Meddai David Bennett, Pennaeth Arloesi a Gwella Gwasanaethau yn The Wallich:

“Mae Canolfan Fenywod ONE yn gyfle enfawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod sy’n gadael y carchar.

Byddwn hefyd yn gallu casglu gwell tystiolaeth o’r angen am ddull cyfannol, system gyfan o ymdrin â chyfiawnder troseddol, a fydd yn helpu i dorri’r cylch o aildroseddu.

I The Wallich, mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol yn cefnogi menywod yn y system cyfiawnder troseddol.

Rydym yn gyffrous i ddarparu ffyrdd mwy effeithiol o weithio, mewn cydweithrediad â mudiadau sy’n bartneriaid ac sy’n rhannu ein credoau a’n gwerthoedd, ac i gyfuno ein cryfderau.”

Tudalennau cysylltiedig