Stephen Kinnock AS yn ymweld â chymorth digartrefedd The Wallich ym Port Talbot

23 Feb 2024

Bu Stephen Kinnock AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Fewnfudo, yn ymweld â staff a defnyddwyr gwasanaeth The Wallich yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Mr Kinnock wedi bod yn Aelod Seneddol dros Aberafan ers 2015, ac mae wedi bod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Fewnfudo ers 2022.

Digartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae’r sir yn amcangyfrif bod 220 a 240 o bobl ar gyfartaledd yn cyflwyno i wasanaethau digartrefedd bob mis.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, mae’r cyngor yn disgwyl gweld tua 2,600 o bobl yn ddigartref yn yr awdurdod lleol.

Dywedodd Elizabeth Crowther, Rheolwr Gwasanaethau The Wallich ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, “Mae’n bwysig iawn bod ein cynrychiolwyr lleol a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn cwrdd â’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

“Rydw i mor falch o bawb a siaradodd â Stephen am y realiti maen nhw’n ei wynebu a’r penderfyniadau anodd iawn mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud bob dydd er mwyn gallu dal ati i fyw eu bywydau.

“Pan fyddwch chi’n cael eich dadleoli o’ch cartref, mae’n teimlo bod eich bywyd ar ryw fath o stop. Mae ein staff ymroddedig yno i eiriol dros bobl pan fydd pethau’n anodd a’u helpu i symud ymlaen.”

Ymweliad Gweinidog yr Wrthblaid

Ar 2 Chwefror 2024, cafodd Mr Kinnock wahoddiad i siarad â staff a defnyddwyr gwasanaeth The Wallich.

Eisteddodd Gweinidog yr Wrthblaid a’i gydweithwyr i drafod pynciau allweddol dros frecwast bwffe hwyr.

Buom yn trafod:

Dywedodd Mr Kinnock, “Roedd hi’n ddiddorol clywed gan rai o’r bobl sy’n ddigartref ym Port Talbot am y problemau maen nhw’n eu hwynebu, a chlywed gan staff am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i leihau digartrefedd yn lleol.

“Rwy’n canmol pob aelod o’r tîm am eu gwaith ysbrydoledig.”

Stephen Kinnock with staff and a client

Cymorth gan The Wallich: PAWS Castell-nedd Port Talbot

Mae The Wallich yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i helpu pobl yr effeithir arnynt.

Mae gan Wasanaeth Atal a Lles (PAWS) Castell-nedd Port Talbot lwyth achosion o dros 300 o unigolion a theuluoedd sydd angen cymorth sy’n gysylltiedig â thai.

Mae’r prosiect hefyd yn helpu pobl i roi hwb i’w sgiliau i fyw’n annibynnol a sicrhau bod eu tenantiaethau’n gynaliadwy.

Gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar atebion, rydyn ni’n cynnig mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant, lles, iechyd a chyfleoedd gwirfoddol.

Mae gan y prosiect hefyd weithiwr cymorth penodol ar gyfer y Gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Llety â chymorth Tŷ Raena

Yn adeilad Tŷ Raena The Wallich, mae 12 fflat stiwdio wedi’u dodrefnu’n llawn, ac yno mae staff profiadol yn cynnig cymorth wedi’i deilwra sy’n seiliedig ar drawma.

Cynigir amrywiaeth o gyfleoedd i breswylwyr i’w helpu i feithrin eu sgiliau, eu hyder a’u gallu i fyw’n annibynnol, fel:

Maen nhw’n cael eu hannog hefyd i rannu eu gwybodaeth gyda chyd-breswylwyr drwy arwain cyrsiau.

Os ydych chi’n AS, yn Aelod o’r Senedd neu’n rhanddeiliad arall yn eich cymuned leol, ac os hoffech chi ymweld ag un o brosiectau The Wallich, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: communications@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig