Ein hymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd

16 Jan 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur gwyn ar ddiwygio deddfwriaethol sydd ei angen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, ac mae wedi gwahodd sefydliadau i roi eu barn ar y cynigion.

Ymgyrch codi arian dros y gaeaf The Wallich i leddfu caledi i bobl yng Nghymru

Ar 10 Hydref 2023, – Diwrnod Digartrefedd y Byd – cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar y diwygiadau deddfwriaethol sydd eu hangen ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Cafodd y cynigion yn y papur gwyn hwn eu llywio gan waith y Panel Adolygu Arbenigol a gafodd ei gynnull gan Crisis, a oedd eu hunain yn ymgynghori ag arbenigwyr o bob rhan o’r sector, gan gynnwys dros 300 o arbenigwyr drwy brofiad. 

Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys dros 50 o gynigion gwahanol, ar draws pum pennod wahanol:

Fel elusen digartrefedd fwyaf Cymru, fe wnaethom ni yn The Wallich rannu ein safbwyntiau â’r Llywodraeth ar gynigion y Papur Gwyn a thynnu sylw at feysydd y gellid eu gwella. 

Tudalennau cysylltiedig