Ein tystiolaeth i Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru

18 Sep 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd drafft, ac wedi gwahodd sefydliadau i roi eu barn

Ynys Môn

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd drafft, gan ddiffinio beth mae’n ei olygu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, a nodi cerrig milltir a metrigau y gallwn eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at yr uchelgais hwn. 

Mae hwn yn tynnu ar Gynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, sy’n olrhain llwybr tuag at wneud digartrefedd ‘yn anghyffredin, yn brin a ddim yn cael ei ailadrodd’. 

Mae’r fframwaith drafft yn nodi chwe chanlyniad strategol – Anghyffredin, Prin, Ddim yn cael ei Ailadrodd, Gweithlu, Ymateb Gwasanaeth Cyhoeddus, a Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn – ac yn erbyn pob un o’r rhain mae rhwng tri a naw canlyniad manwl, pob un ag amrywiaeth o ddangosyddion data i fesur cynnydd. 

Fel elusen digartrefedd fwyaf Cymru, fe wnaethom ni yn The Wallich rannu ein safbwyntiau â’r Llywodraeth ar y fframwaith canlyniadau drafft, a thynnu sylw at feysydd y gellid eu gwella. 

Tudalennau cysylltiedig