Cymorth sy’n Achub

24 Sep 2017

crynodeb

Mae Cymorth sy’n Achub yn defnyddio cyfres o astudiaethau achos i ymchwilio i fel y mae The Wallich yn defnyddio cyllid Cefnogi Pobl, a faint o werth am arian y mae’n ei ddarparu.

Gan ddadansoddi profiadau ein cleientiaid, a chymharu’r gost i’r system iechyd a’r system cyfiawnder troseddol – ymysg eraill – daw’r adroddiad hwn i’r casgliad bod gwasanaethau The Wallich yn gost-effeithiol dros ben.

textimgblock-img

Y Cyfrifydd Arbedion i Deuluoedd yw’r prif offer a ddefnyddir yn yr adroddiad, ac fe’i defnyddir i bennu costau amrywiol ymyraethau (galw ambiwlans allan, er enghraifft). Mae’r ddogfen hon yn esbonio diben gwreiddiol yr offer, a’r cyd-destun y tu ôl i’w ddatblygu.

Os cafodd costau eu haddasu, neu os defnyddiwyd offer o fath arall, nodir hynny yn nhestun yr adroddiad.

I gael gwybod mwy

Tudalennau cysylltiedig