Torfaen
prep@thewallich.net
Mae Prosiect Grymuso Carcharorion sy’n cael eu Rhyddhau (PREP) Torfaen yn darparu cymorth ataliol i bobl ddigartref sydd wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Mae’r Gweithiwr Cyswllt PREP yn asesu ac yn gweithio gydag unigolion tra maent yn y ddalfa gyda’r nod o sicrhau llety i’r unigolyn pan fydd yn cael ei ryddhau, a sicrhau na fydd yn ddigartref pan fydd yn gadael y carchar.
Bydd yr unigolyn yn cael ei asesu er mwyn canfod a oes modd iddo ailgysylltu â theulu, a ddylid rhoi blaenoriaeth i unrhyw angen, a oes anghenion penodol o safbwynt iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau.
Yna byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i geisio sicrhau’r llety mwyaf priodol sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys tai sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, tai â chymorth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r sector rhentu preifat.
Gall cofnodion troseddol fod yn rhwystr i gael tai a swyddi.
Er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn adsefydlu’n dda ar ôl cael ei ryddhau bydd y Gweithiwr Cyswllt PREP hefyd yn cynnig cyngor ac yn gwneud atgyfeiriadau mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion gofal iechyd a materion yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol a allai atal yr unigolyn rhag symud yn llwyddiannus o’r carchar i lety.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.