Beth yw digartrefedd
Gall digartrefedd fod yn bwnc cymhleth
Mae The Wallich yma i ddarparu gwybodaeth sy’n egluro’r camsyniadau ynghylch ddigartrefedd
Y diffiniad cyfreithiol o ddigartrefedd yw ‘nid oes gan unigolyn gartref yn y DU nac unrhyw le arall yn y byd sydd ar gael ac yn rhesymol i fyw ynddo’.
Mathau o ddigartrefedd
Cysgu allan
Cysgu allan yw’r math mwyaf amlwg o ddigartrefedd ac yn aml yr hyn y mae pobl yn ei gysylltu â digartrefedd.
Yn syml iawn, mae cysgu allan yn rhywun sydd heb do uwch ei ben ac sy’n cysgu ar y stryd, mewn parciau neu mewn lleoliadau eraill yn yr awyr agored.
Digartrefedd cudd
- Cysgu o soffa i soffa – byw ar soffa ffrind neu berthynas
- Cysgu yn eich car
- Sgwatio mewn adeiladau adfeiliedig
Mewn perygl o fod yn ddigartref
- Byw mewn tai o ansawdd gwael neu wynebu ansicrwydd yn eu sefyllfa dai
- Wedi cael hysbysiad Adran 21 gan y landlord – y broses gyfreithiol i ddod â thenantiaeth fyrddaliadol sicredig i ben
- Mae’n afresymol i rywun aros yn eu cartref oherwydd cam-drin domestig neu drais arall
- Os ydych chi’n cael eich troi allan o’ch cartref
- Mae ffrind neu berthynas wedi gofyn i chi adael eu cartref
- Gadael carchar
- Gadael lleoliad gofal
Mewn llety dros dro neu lety mewn argyfwng
- Byw oddi cartref oherwydd trais neu gam-drin domestig
- Byw mewn hostel, gwely a brecwast neu lety tymor byr arall
Ar bwy mae digartrefedd yn effeithio arno?
Mae digartrefedd yn effeithio ar amrywiaeth eang o bobl. Efallai y bydd rhai grwpiau yn fwy agored i ddigartrefedd.
Efallai y byddwch mewn mwy o berygl os ydych chi’n:
- Gadael lleoliad gofal
- Gadael carchar
- Ceisiwr lloches neu’n ffoadur
- Gadael yr ysbyty ar ôl arhosiad tymor hir
- Gadael y lluoedd arfog
- Ffoi o’ch cartref oherwydd trais
- Ystyried eich hun yn LHDTC+
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd
Yn The Wallich, rydyn ni’n cefnogi dros 7,500 o bobl sy’n ddigartref bob blwyddyn.
Rydym yn rhedeg dros 100 o wasanaethau ar draws 18 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn amrywio o lety tymor hir, gwasanaethau lles a chyflogaeth, llety brys, cefnogi pobl sydd â chefndir o droseddu a mwy.

Mae digartrefedd yn gallu bod yn bwnc cymhleth a dadleuol.
Yn The Wallich, rydyn ni’n dod ar draws mythau am ddigartrefedd o ddydd i ddydd. Gall rhai ohonyn nhw fod yn niweidiol dros ben.
Mae llawer o’r mythau rydyn ni’n eu clywed yn uniongyrchol, yn eu gweld ar y cyfryngau traddodiadol neu ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn portreadu digartrefedd a’r bobl sy’n ddigartref mewn ffordd negyddol iawn.
Mae’r mythau hyn yn annog stereoteipiau hynafol, ac yn creu ymdeimlad o ‘ni a nhw’, sy’n gallu arwain at ragfarn a chasineb.
Mae ein gwerthoedd sefydliadol yn hollbwysig i ni ac rydyn ni wir yn credu bod angen i ni fod yn ddewr, yn benderfynol ac yn ddilys wrth chwalu mythau ystrydebol.
Er mwyn chwalu’r mythau hyn a thaflu goleuni ar realiti llym digartrefedd, rydyn ni wedi ymgynghori â’n haelodau staff a’n Bwrdd Cysgodol Defnyddwyr Gwasanaeth.
Mae defnyddiwr gwasanaeth neu aelod o staff wedi clywed pob un o’r mythau isod, neu maen nhw wedi cael eu hysgrifennu ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn adran sylwadau erthyglau.
Cliciwch ar un o’r mythau isod i gael gwybod y gwir
- “Mae pobl yn ddigartref am eu bod wedi gwneud dewisiadau gwael mewn bywyd.”
- “Ddylech chi ddim rhoi arian i bobl sy’n cysgu allan oherwydd byddan nhw’n ei wario ar gyffuriau, neu fe fydd yn sgam.”
- “Pam nad yw pobl ddigartref yn mynd i loches – mae llawer ohonyn nhw”
Os ydych chi wedi clywed unrhyw fythau sydd, yn eich barn chi, angen eu chwalu, cysylltwch â ni: communications@thewallich.net
Myth
“Mae pobl yn ddigartref am eu bod wedi gwneud dewisiadau gwael mewn bywyd.”
Gwirionedd
Mae hyn yn anghywir. Mae digartrefedd yn bwnc hynod o gymhleth.
Does dim ‘un ateb i bawb’ wrth sôn am ddigartrefedd, ac er gwaethaf rhai themâu sy’n codi dro ar ôl tro, mae profiadau pawb yn wahanol.
Mae rhai pobl yn dod yn ddigartref yn dilyn cadwyn hir o ddigwyddiadau bywyd.
Gallai rhywun ddod yn ddigartref oherwydd…
Amgylchiadau unigol
- Teulu / perthynas yn chwalu
- Gadael carchar
- Colli incwm neu incwm yn gostwng
- Iechyd meddwl gwael (iselder, anhwylder straen wedi trawma, pryder, anhwylder deubegynol ac ati)
- Problemau gyda landlord
- Profedigaeth
- Trawma (gallai hyn fod wedi digwydd ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd)
- Cam-drin domestig
- Homoffobia neu hiliaeth
Materion systemig
- Costau byw yn cynyddu
- Pandemig byd-eang
- Gadael lleoliad gofal
- Lefelau diweithdra yn cynyddu
- Diffyg tai fforddiadwy
- Anghydraddoldeb
Cydadwaith cymhleth sefyllfaoedd
- Diffyg addysg / sgiliau sy’n golygu nad ydynt yn gallu cynnal tenantiaeth
Mae llawer o haenau i ddigartrefedd, ac fel arfer mae effaith ganlyniadol y tu ôl i bob rheswm.
Er enghraifft – gallai unigolyn fod wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a allai arwain at iechyd meddwl gwael, a allai arwain at berthynas yn chwalu, a allai arwain at ddigartrefedd.
Myth
“Ddylech chi ddim rhoi arian i bobl sy’n cysgu allan oherwydd byddan nhw’n ei wario ar gyffuriau, neu fe fydd yn sgam.”
Gwirionedd
Dewis personol yw rhoi arian i rywun sy’n cysgu allan.
Os yw rhywun sy’n gofyn am arian, dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn bwriadu ei wario mewn ffordd wael. Efallai ei fod yn gobeithio cael digon o newid i gael trafnidiaeth i apwyntiad neu i brynu pryd poeth iddo’i hun.
Gallai fod yn ffordd o gychwyn sgwrs. Ffordd o ddenu sylw ar ôl cael ei anwybyddu a chael pobl yn osgoi cyswllt llygad am oriau maith.
Pan fydd rhywun yn gorwedd i lawr (bedded down yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio’n Saesneg pan fydd rhywun yn eistedd ar y llawr yn y lle maen nhw’n bwriadu cysgu) mae’n gweld popeth o safbwynt mwydyn. Gall hyn wneud i unrhyw un sy’n cerdded heibio neu’n edrych i lawr arnoch ymddangos yn frawychus iawn a gwneud i’r unigolyn deimlo’n fregus iawn.
Mae cydnabod yr unigolyn, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ateb ‘na, sori’ pan fydd yn gofyn ‘oes gennych chi unrhyw newid dros ben’, gan wneud cyswllt llygad a dweud rhywbeth cyfeillgar yn gallu gwneud byd o wahaniaeth – a dydy hynny ddim yn costio dim byd.
Mae sawl ffordd y gallwch chi helpu pobl sy’n ddigartref heb roi arian yn uniongyrchol iddyn nhw hefyd.
- Cynigiwch brynu bwyd neu ddiod iddyn nhw – rydyn ni’n argymell gofyn i’r unigolyn yn gyntaf oherwydd efallai na fydd angen unrhyw beth arno neu efallai fod ganddo alergeddau neu anoddefiadau
- Rhowch eich amser, drwy gael sgwrs syml
- Cyfeiriwch yr unigolyn at wasanaethau lleol neu’r cyngor lleol
- Gwirfoddolwch gydag elusen o’ch dewis
- Defnyddiwch ap neu wefan StreetLink i helpu i gysylltu rhywun â’r gwasanaethau sydd eu hangen arno
- Trefnwch i roi rhodd reolaidd i elusen er mwyn i chi wybod lle mae eich arian yn cael ei wario
Rydyn ni’n elusen ddigartrefedd, a dydyn ni ddim yn cydnabod y term begera proffesiynol a dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth gredadwy i gefnogi’r honiadau hyn.
Myth
“Pam nad yw pobl ddigartref yn mynd i loches – mae llawer ohonyn nhw”
Gwirionedd
Gall y newid rhwng cysgu allan a symud i lochesi neu lety â chymorth wneud i rywun deimlo’n ofnus, yn ddryslyd ac wedi’i lethu.
Mae gan bawb sy’n ddigartref lefel wahanol o ran anghenion cymorth ac anghenion llety.
O safbwynt rhywun o’r tu allan, mae’n hawdd gweld pam mae pobl yn neidio i gasgliadau wrth gael y meddylfryd hwn, ond mae’r realiti’n llawer mwy cymhleth.
Yr unigolyn
Y peth cyntaf y mae angen i rywun ei wneud os yw mewn perygl o ddod yn ddigartref neu os yw wedi cael ei wneud yn ddigartref yw cyflwyno ei hun i’r cyngor. Gall hyn fod yn frawychus a gall deimlo fel profiad llawn cywilydd.
Mae ffactorau sy’n cynnwys y pandemig a’r argyfwng costau byw yn golygu bod cynghorau’n cael eu gorymestyn. Mae pobl yn aml yn cael eu cyfeirio at elusennau, asiantaethau neu’n cael eu rhoi ar restr aros fel ateb dros dro.
Pan fydd llety’n cael ei gynnig, fel arfer mae rhesymau pam nad yw’r cynnig yn cael ei dderbyn, gan gynnwys diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau neu gynnig anaddas.
Cyfnodau amser
Efallai na fydd gan y llety gyfnod o amser pan fydd lle ar gael neu y bydd uchafswm o ran pa mor hir y gall rhywun fyw yno.
Gall hyn fod yn frawychus. Gall cyfnodau amser ychwanegu pwysau at adfer ac efallai y bydd pobl yn colli gobaith oherwydd hyn.
Iechyd
Mae iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn ffactorau pwysig pam nad yw rhywun yn derbyn neu’n aros yn hir mewn llety.
Yn ôl Crisis, mae 45% o bobl sy’n ddigartref wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl. Mae hyn yn codi i 8 o bob 10 person sy’n cysgu allan.
Gall rhwystrau i gael gafael ar lety os oes gan rywun gyflwr iechyd corfforol gynnwys llochesi nad ydyn nhw’n hygyrch – rampiau, ystafelloedd ymolchi, dodrefn neu gyfleusterau coginio hygyrch – diffyg cefnogaeth arbenigol neu stoc dai o ansawdd gwael.
Gall iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma, profiadau blaenorol a pherthnasoedd heriol gyfrannu at y rhesymau pam y byddai’n well gan rywun beidio â mynd i lety.
Gallai rhwystrau pellach gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, tenantiaethau ansicr, gorlenwi neu deimlo’n anniogel.
Gall unrhyw un o’r materion hyn waethygu cyflyrau sy’n bodoli eisoes.
Ymddiriedaeth
Un pryder cyffredin gan y bobl rydyn ni’n eu cefnogi yw eu bod wedi cael eu siomi wrth orfod ailadrodd eu straeon dro ar ôl tro i wahanol rwydweithiau.
Ar ôl cysgu allan am gyfnodau hir, gall fod yn anodd addasu i fod y tu mewn. Mae’n hawdd i her fechan ysgogi ymateb brwydro neu ddianc.
Mae meithrin ymddiriedaeth yn cymryd amser ac mae gofyn cael sgwrs ddwyffordd onest ac agored.
Dydy rhai unigolion ddim yn barod i dderbyn cymorth eto. Ond rydyn ni’n credu, gyda gwaith maes parhaus ac ymyrraeth gan wasanaethau, y gall ddigwydd – ond pan fyddan nhw’n barod.
Llety ar gyfer pobl ddigartref
Y darpariaethau sydd ar gael
Mae gwahanol fathau o lety ar gael i bobl sy’n ddigartref:
- Llety â chymorth 24/7
- Llochesi nos mewn argyfwng
- Mannau a rennir
- Llochesi
- Gwely a brecwast
- Hosteli
- Llety dros dro i’w rentu’n breifat.
Yn hanesyddol, mae’r darpariaethau wedi cynnwys amodau o ran gofynion mynediad – angen blaenoriaethol neu gysylltiad lleol.
Diffiniad o angen blaenoriaethol – Mae gan unigolyn angen blaenoriaethol os yw’r awdurdod yn fodlon ei fod yn agored i niwed o ganlyniad i henaint, salwch meddwl neu anabledd meddyliol, anabledd corfforol neu reswm arbennig arall.
Diffiniad o gysylltiad lleol – Mae gan unigolyn gysylltiad lleol os yw wedi byw yn yr ardal honno am 3 o’r 5 mlynedd diwethaf, os oes ganddo waith yn yr ardal honno’n barhaol, bod ganddo gysylltiad teuluol cryf yn yr ardal a bod aelod neu aelodau o’r teulu wedi byw yno am o leiaf 5 mlynedd.
Mewn ymateb i bandemig Covid-19, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bolisi newydd i leihau’r effaith bosibl y gallai Covid-19 ei chael ar bobl sy’n ddigartref ac yn enwedig y rheini sy’n cysgu allan.
Roedd hyn yn golygu bod gofynion angen blaenoriaethol chysylltiad lleol wedi cael eu hatal a bod polisi ‘neb yn cael ei adael allan’ yn cael ei gyflwyno.
Ym mis Gorffennaf 2022, mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddynt ynghylch y newidiadau i ddarpariaethau digartrefedd, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael i gysgu ar y stryd yng Nghymru.
Rheolau a rheoliadau
Gall llety dros dro gynnwys llawer o reolau a rheoliadau i sicrhau y cydymffurfir ag iechyd a diogelwch, i ddiogelu staff a chleientiaid a mwy.
Gall fod yn anodd dilyn ac addasu i’r newid rhwng bod yn ddigartref a pheidio â chael unrhyw reolau i symud i lety lle ceir rheolau ymddygiad.
Gallai rheoliadau a allai atal rhywun rhag derbyn lle mewn llety gynnwys:
- Polisi dim goddefgarwch ar gyfer sylweddau – mae pobl yn osgoi hyn os ydyn nhw’n gaeth i gyffuriau.
- Cael aros am gyfnod penodol.
- Llety ddim yn caniatáu anifeiliaid anwes neu ddim yn cael mynd i lety fel cwpl neu gyda ffrind.
- Cyrffyw a chyfyngu ar westeion.
- Llety lle mae grwpiau cymysg o ran anghenion a rhywedd.
Dyma rai ffactorau eraill nad ydyn nhw’n rheolau, a allai olygu nad yw rhywun yn derbyn lle mewn llety:
- Diffyg preifatrwydd – arwynebedd llawr, dim ystafelloedd preifat, dim cloeon ar ddrysau.
- Gall unigolion risg uchel i gyd mewn un lle achosi mwy o ddrwg – yn enwedig pan fydd perthnasoedd eisoes yn bodoli.
- Bod i ffwrdd o amgylchedd cyfarwydd.
- Methu â chael mynediad at y llety priodol ar gyfer pobl ag anghenion penodol.
I rai pobl sy’n ddigartrefedd, gall awyrgylch anhrefnus rhai hosteli fod yn heriol, ac efallai eu bod yn teimlo o ddifrif bod cysgu ar y stryd yn fwy diogel.
Mae llawer o elusennau a sefydliadau ymgyrchu, gan gynnwys The Wallich, yn brwydro dros gael gwared ar rwystrau ac i’r holl ddarpariaethau llety ar gyfer pobl ddigartref fod yn gwbl ystyriol o drawma, yn ddiogel ac yn lle braf i aros ynddyn nhw.