De Cymru
WelfareVehicle@thewallich.net
Boed yn Aberystwyth, y Fenni, Castell-nedd neu Gasnewydd, mae ein cerbydau Gweithrediadau Symudol yn rhoi cymorth i bobl sydd ei angen, pan fydd ei angen arnynt.
Mae ein staff arbenigol yn creu amgylchedd diogel i bobl nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau yn eu rhanbarth.
Ers 2017, mae Gweithrediadau Symudol The Wallich wedi bod yn gwella cyrhaeddiad, cyflymder ac ansawdd gwasanaethau digartrefedd.
Mae’r holl gerbydau sy’n rhan o Weithrediadau Symudol The Wallich wedi cael eu henwi gan staff er cof am bobl a oedd yn arbennig i The Wallich.
Mae’r Cerbyd Lles yn un o gerbydau mwyaf adnabyddus The Wallich – ar ôl cymryd rhan yn Pride Cymru, Cwpan y Byd Digartref 2019 ac ymweld â threfi ledled Cymru.
Mae’r Cerbyd Lles, sef Monty, wedi’i enwi ar ôl ci annwyl The Wallich ac mae’n ymateb i anghenion lleol fel cynnydd sydyn yn nifer y bobl sy’n cysgu allan, digwyddiadau ymwybyddiaeth leol neu gefnogaeth galw heibio.
Roedd y Cerbyd Lles yn allweddol yn ystod pandemig COVID-19 i helpu i gyflwyno’r brechlyn Coronafeirws.
Mae cyfleusterau’r cerbyd yn cynnwys cawod, peiriant sychu dillad, ystafell feddygol ac ystafell gyfarfod un-i-un ar gyfer pobl sy’n ddigartref.
Mae ein Cerbyd Llesiant, sef Dilys, yn deyrnged i un o gefnogwyr arbennig The Wallich ac mae’n tueddu i ganolbwyntio ar leihau niwed.
Mae’r Cerbyd Llesiant yn cefnogi pobl sydd angen cymorth gyda thai, iechyd corfforol, defnyddio sylweddau, iechyd meddwl a mwy.
Mae’r cerbyd hwn wedi bod yn rhan o brosiect arloesol i gynyddu profion Hepatitis C gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, gan hybu diagnosis gwell i bobl sy’n ddigartref.
Mae gan y Cerbyd Llesiant hefyd berthynas sefydledig gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent; mae’n darparu gwasanaeth allgymorth yn rheolaidd ac yn rhoi cyngor mewn trefi yn y rhanbarth.
Mae gan y Cerbyd Llesiant gyfleusterau cegin, gofod desg a socedi, toiled a WI-FI.
O ganlyniad i ymgyrch y gaeaf Estyn Llaw at Bobl sy’n Cysgu Allan 2017, mewn partneriaeth â’r South Wales Echo, prynodd The Wallich bum cerbyd i helpu ein gwasanaethau cysgu allan.
Cafodd Fflyd y Stryd eu dosbarthu ledled Cymru a’u henwi er cof am ddefnyddwyr gwasanaeth a gollwyd ym mhob ardal:
Nod Fflyd y Stryd yw mynd allan bob dydd at bobl sy’n cysgu allan ledled Cymru i gynnig darpariaethau, cefnogaeth a chyngor.
Mae ein timau nid yn unig yn mynd yn uniongyrchol at bobl sy’n byw ar y strydoedd, ond gall ein cerbydau hefyd helpu i gadw pobl oddi ar y strydoedd, drwy symud pobl a’u heiddo i hosteli neu eu cartrefi.
Gallant hefyd fynd â phreswylwyr i apwyntiadau, sesiynau cefnogi, hyfforddiant gwirfoddoli, lleoliadau addysg a gwaith neu ar deithiau sy’n newid bywydau mewn ymgais i dorri cylchoedd parhaus o ddigartrefedd.
I siarad â’n tîm am wasanaethau a gweithrediadau symudol, cysylltwch â: WelfareVehicle@thewallich.net
Rydyn ni’n sefydliad sefydledig. Pan fydd ein cerbydau allan neu wedi parcio, mae pobl yn ymddiried ynom ni a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n teithio gyda ni i roi cymorth.
Drwy weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd a gweithio gydag unigolyn sydd wedi’i enwebu’n Nyrs y Flwyddyn i ddarparu gwasanaethau meddygol i bobl sy’n cysgu allan ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni’n agored i bosibiliadau allgymorth symudol.
Ydych chi’n awyddus i weithio mewn partneriaeth â gwasanaeth arloesol i ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i bobl ddigartref yn uniongyrchol yn eu cymuned?