Bwrdd Cysgodol

Grŵp o unigolion sydd â phrofiad bywyd o’n gwasanaethau, nawr neu yn y gorffennol, ydy Bwrdd Cysgodol The Wallich

Mae’r Bwrdd Cysgodol yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn hysbysu, gwella a chydgynhyrchu gwasanaethau The Wallich.

Mae’n gweithio’n agos â Phrif Swyddog Gweithredol, uwch dîm a Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich.

Beth mae’r Bwrdd Cysgodol yn ei wneud?

Mae’r Bwrdd Cysgodol yn rhoi persbectif unigryw a llais i ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru.

Dyma sut mae’r Bwrdd yn cael effaith ar wasanaethau The Wallich:

Manteision bod ar y Bwrdd Cysgodol

textimgblock-img
  • Mentora personol gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr
  • Ymuno â chymuned o unigolion o’r un anian â chi
  • Cyfleoedd allanol i fod yn rhan o fforymau, digwyddiadau a grwpiau cynrychioliadol y sector ehangach

Hyd yma, mae’r Bwrdd Cysgodol wedi ymgynghori a gweithio ar y canlynol:

Ymwneud â:

Mynychu:

Cydgynhyrchu:

Maniffesto’r Bwrdd Cysgodol ac Ymddiriedolwyr

Gwybodaeth wahanol yn dod at ei gilydd i roi diwedd ar ddigartrefedd

Mae’r Maniffesto hwn yn gytundeb rhwng Bwrdd Cysgodol a Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich.

Mae’n amlinellu sut maen nhw’n bwriadu gweithio gyda’i gilydd, gan ddefnyddio gwybodaeth wahanol i roi diwedd ar ddigartrefedd a chefnogi pobl sy’n ddigartref.

Cafodd y Maniffesto ei greu drwy sgyrsiau â’r ddau Fwrdd fel rhan o brofiad dysgu ym mis Mehefin 2023.

Mae’n cynnwys nodau o ran sut mae cydweithio a beth maen nhw eisiau ei gyflawni i sicrhau bod y Byrddau’n unedig, yn aros ar y trywydd iawn ac yn sicrhau newid.

Gyda’n gilydd – nid yw’n golygu’r hyn y gall rhywun ei wneud i rywun arall, ond yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd – i wella’r profiad i bawb.

Wrth i ddau Fwrdd ddod at ei gilydd, rydyn ni’n addo’r canlynol

Rydyn ni’n ddewr

Rydyn ni’n benderfynol

Rydyn ni’n ddilys

Rydyn ni’n dosturiol

Rydyn ni’n gymuned

“I mi, mae’r Bwrdd Cysgodol yn ymwneud ag ymrwymiad, dealltwriaeth, cyfathrebu a pherthyn.

Mae’n rhoi cyfle i mi wneud gwahaniaeth sy’n helpu pobl eraill.”

– Dean, aelod o’r Bwrdd Cysgodol

“Mae’r Bwrdd Cysgodol yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud penderfyniadau a chynlluniau gyda’n gilydd. Does dim ‘nhw a ni’, rydyn ni i gyd yn brwydro gyda’n gilydd i roi diwedd ar ddigartrefedd.”

Lindsay Cordery-Bruce, Prif Swyddog Gweithredol The Wallich

Profiad Aled ar y Bwrdd Cysgodol

“Dechreuais gyda’r Bwrdd Cysgodol tua phedwar mis yn ôl. O’r cychwyn cyntaf cefais groeso, ac roedd pawb mor gyfeillgar.

Rwyf wedi cael nifer o brofiadau yn barod yn ystod fy nghyfnod byr gyda’r Bwrdd.

textimgblock-img

O gwrdd â’m Bwrdd Ymddiriedolwyr cyntaf erioed a dysgu beth mae’n ei wneud, i gael dweud fy nweud ar gyllideb y llywodraeth ac ymweld â’r Senedd i weld Llywodraeth Cymru yn trafod cyllideb Cymru.

Rwy’n teimlo fy mod wedi tyfu fel unigolyn ers ymuno â’r Bwrdd Cysgodol ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am hynny.

Ymunais â’r Bwrdd gan ddisgwyl iddo fod yn stryd un ffordd. Byddwn i yno i roi fy marn a dyna hi, ond dydy hi ddim fel yna o gwbl.

Mae wedi datblygu’n gymuned glos sy’n parchu ei gilydd lle mae pawb yn cael effaith.

Y dyfyniad gorau y gallaf feddwl amdano sy’n addas i’r Bwrdd Cysgodol yw:

Nid yw’n golygu’r hyn y gall rhywun ei wneud i rywun arall, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud i’n gilydd i wella’r profiad i bawb.

Rwy’n gobeithio bod hynny’n gwneud synnwyr; rydyn ni i gyd yn gweithio i wella The Wallich, y gwasanaeth mae staff yn ei ddarparu, a bywydau’r defnyddwyr gwasanaeth, drwy ddefnyddio ein profiad bywyd.

Credaf mai dyna’r peth mwyaf gwerthfawr sy’n digwydd ar hyn o bryd gan fod y Bwrdd yn cynnwys unigolion o bob math o gefndiroedd.

Mae The Wallich yn brwydro i roi diwedd ar ddigartrefedd, felly beth am gael unigolion sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd i helpu.

Dyma’r peth gorau am Fwrdd Cysgodol The Wallich.

Mae wedi dod ag unigolion sydd â gwahanol brofiadau at ei gilydd i helpu i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n anhygoel ac yn fy marn i mae’n gysyniad y dylai pobl eraill ei fabwysiadu.”

Allwch chi gynnig hyfforddiant, profiadau neu gyfleoedd arbenigol i’n Bwrdd Cysgodol Defnyddwyr Gwasanaeth?

Cysylltwch â’n Cydlynydd Cydgynhyrchu a Phrofiad Bywyd.

Tudalennau cysylltiedig