
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod 10,282 o bobl yn byw mewn llety dros dro (hosteli neu lety gwely a brecwast), gan gynnwys 2,219 o blant o dan 16 oed.
Mae hyn yn fwy o bobl ar y stryd na’r un adeg y llynedd, ac mae’n pwysleisio pam ei bod mor bwysig bod Llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu ariannu gwasanaethau allgymorth grymusol a chartrefi diogel a fforddiadwy gyda chymorth cofleidiol sy’n diwallu anghenion pobl.
“Mae’n anhygoel clywed Prif Weinidog yn dweud bod mynd i’r afael â chysgu allan yn flaenoriaeth. Mae angen inni weld camau’n cael eu cymryd nawr.
Mae ffigurau digartrefedd Cymru yn dangos y rhesymau pam fod angen hyn.
Yn The Wallich, gwyddom ei bod yn bosibl defnyddio grym ewyllys ac arweinyddiaeth wleidyddol i roi diwedd ar gysgu allan. Gwnaethom hynny yn ystod COVID a gallwn wneud hyn eto, ond mae angen i hyn gael ei ategu gan y modelau cyllido a chymorth i helpu pobl i gael cartrefi hirdymor fforddiadwy.
Gyda thai’n cael eu datganoli i Gymru, a’r addewid o £340 miliwn gan lywodraeth Burnham yn berthnasol i Loegr yn unig, mae angen i ni wneud yn siŵr bod Cymru’n cadw’r un ffocws.
Mae’r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd yn enghraifft wych o sut y gallwn newid y system dai er gwell, ac mae llawer mwy o ddatrysiadau y gall y ddwy lywodraeth eu defnyddio i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Er hynny, mae angen i Lywodraeth newydd Cymru gyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno’r Ddeddf, gan sicrhau nad oes unrhyw ddrws anghywir at gael gafael ar gymorth, a buddsoddi yn y gyllideb Atal a Chymorth Tai sy’n darparu’r cymorth hwnnw.
Rydyn ni’n gobeithio gweld Cynllun Gweithredu diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, sydd â chynlluniau clir ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Rhaid iddi hefyd gyflawni ei hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2030, gan fod gennym brinder difrifol o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.”
Nid mater o dai yn unig yw digartrefedd, mae’n fater iechyd hefyd.
Y llynedd, dim ond 43 oedd disgwyliad oes cyfartalog rhywun a oedd yn cysgu allan yng Nghymru ar gyfer menywod, a 45 ar gyfer dynion.
Gall digartrefedd arwain at salwch anadlol, anafiadau heb eu trin, cyflyrau iechyd hirdymor, mwy o bryder ac iechyd meddwl gwael. Pan fydd rhywun yn cysgu allan, mae’n anodd cael gafael ar ofal iechyd, meddyginiaeth neu gymorth.
Mae gan The Wallich dimau allgymorth penodol ar gyfer pobl sy’n cysgu allan, yn ogystal â chanolfannau galw heibio yn Aberystwyth, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Hwlffordd a Phont-y-pŵl.
Ledled Cymru, mae The Wallich wedi cefnogi 3,342 o bobl mewn 3 mis. Rydyn ni wedi eu helpu i ddod o hyd i lety, cadw eu tenantiaeth, negodi gyda’u landlord, a gwella eu sgiliau bywyd. Y rheswm dros wneud hyn yw oherwydd ein bod ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gael lle diogel i’w alw’n gartref.

* Yfwch digon o ddŵr
* Defnyddiwch eli haul (SPF 50+)
* Gwisgwch gap
* Cadwch allan o’r haul, drwy fynd i ganolfannau galw heibio The Wallich, llyfrgelloedd, adeiladau cyhoeddus eraill
* Ewch am gawod os gallwch chi Defnyddiwch weips gwlyb os nad yw hynny’n bosibl.
* Os ydych chi’n defnyddio cyffuriau, peidiwch â defnyddio cyffuriau cryf a chymerwch bwyll, gan beidio â’u defnyddio ar eich pen eich hunain.
* Cadwch eich anifeiliaid allan o’r gwres ac yn y cysgod, a sicrhau eu bod nhw’n cael digon o ddŵr.