Sir Ddinbych
crs@thewallich.net
01745 345 500
Rydym yn wasanaeth diduedd ac annibynnol, sy’n cael ei ddarparu gan staff wedi’u hyfforddi a’u hachredu yn Sir Ddinbych a Chonwy
Mae ein gwasanaeth datrys gwrthdaro a chyfryngu yn rhad ac am ddim ac ar gael i unrhyw un yn y pedair sir sy’n profi anghydfod a allai effeithio ar eu sefyllfa tai.
Gallai hyn gynnwys:
Mae datrys gwrthdaro yn broses lle y mae pobl sydd mewn anghytgord neu wrthdaro â’i gilydd yn defnyddio trydydd person (cyfryngwr) i’w helpu i gyfathrebu a datrys problemau.
Rydym ni’n defnyddio cyfryngu i alluogi pobl i siarad yn effeithiol am faterion a’u galluogi i gyrraedd cytundeb sy’n addas i’r ddwy ochr.
Rydyn ni’n ymdrin ag anghydfodau nad ydynt yn rhai cyfreithiol nac yn rhai treisgar, sy’n codi rhwng teuluoedd, cymdogion, pobl ifanc, landlordiaid a thenantiaid a allai arwain at un neu fwy o bobl yn mynd yn ddigartref.