Wrecsam
stjohns@thewallich.net
01978 355 155

Mae St John’s yn cynnig chwe gwely i bobl ddigartref yn Wrecsam.
Yno, mae gan breswylwyr eu hystafell wely eu hunain, a chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi sy’n cael eu rhannu.
Yn yr hostel, mae gardd gyda seddi yn yr awyr agored. Gall preswylwyr ymlacio y tu allan, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau garddio.
Mae ystafell weithgareddau ar gael i breswylwyr ei defnyddio i ymlacio.
Er mwyn cefnogi pob preswylydd drwy gydol ei daith, mae pob un yn cael Uwch Weithiwr Cymorth.
Mae gan Hostel St John’s staff cefnogi ar y safle, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae unrhyw un dros 18 oed, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n ddigartef ar hyn o bryd, yn gymwys i gael eu hatgyfeirio i Hostel St John’s.
Yn yr hostel, mae cymysgedd o breswylwyr a chydbwysedd rhwng y rhywiau.
Mae croeso hefyd i anifeiliaid anwes symud i mewn i’r hostel, gyda chytundeb ymlaenllaw.
Mae Hostel St John’s wedi hen ennill ei blwyf yn Wrecsam ac mae wedi helpu pobl sydd wedi bod yn ddigartref ers blynyddoedd lawer.
Mae dros 100 o bobl wedi galw Hostel St John’s yn gartref, ac mae llawer wedi symud ymlaen i fyw’n annibynnol erbyn hyn.
Mae gweithgareddau rheolaidd yn cael eu cynnal gan y staff er mwyn i’r preswylwyr allu cymryd rhan ynddynt.
Ceir nifer o weithgareddau megis cwisiau thematig a chystadlaethau tyfu blodau’r haul, i ddiwrnodau allan yn canŵio, gwersylla a dringo mynyddoedd Cymru, sy’n digwydd yn rheolaidd.
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i roi hwb i hunanhyder, meithrin perthynas â phreswylwyr eraill a galluogi preswylwyr i fod yn fentrus, mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Mae’r Wallich yn credu bod anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol gan unigolion sy’n ddigartref ac mewn risg.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma, a chynnig y cymorth sy’n addas iddyn nhw yn y ffordd orau bosib.
Wrth i ni feithrin ein perthynas â’r preswylwyr rydyn ni’n eu cefnogi, maen nhw’n teimlo’n ddiogel i rannu mwy am eu straeon.
Mae gan The Wallich wasanaeth cwnsela, o’r enw Y Rhwydwaith Myfyrio, y gall preswylwyr ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phroblemau a gwneud newid cadarnhaol tymor hir, gan sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i ddigartrefedd.
Daw’r holl atgyfeiriadau i Hostel St John’s yn uniongyrchol gan y tîm digartrefedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
“Mae The Wallich yn elusen anhygoel i weithio iddi. Mae’r hyfforddiant yn un heb ei hail ac mae’n wych cael bod yn rhan o dîm sydd i gyd yn ceisio helpu a chefnogi preswylwyr.”
– Aelod o staff St John’s, The Wallich
“Ers gweithio i The Wallich, rydw i wedi datblygu sgiliau sydd wedi fy helpu i roi cymorth i bobl eraill yn well, a dyna pam rydw i yn y swydd rydw i ynddi. Allwn i ddim meddwl am le gwell i wneud hynny nag yma.”
– Aelod o staff St John’s, The Wallich
“Rydw i wrth fy modd yn gweithio i The Wallich gan fod eu gwerthoedd yr un fath â fy ngwerthoedd i. Maen nhw bob amser yn awyddus i wella a datblygu i’n helpu ni, i roi cymorth i eraill yn well.”
– Aelod o staff St John’s The Wallich
“Rydw i mor falch o ddod yma. Mae fy ystafell yn edrych yn wych ac mae’r holl bethau eraill hefyd, fel y gegin a’r ystafelloedd teledu, staff 24/7 i siarad â nhw, alla i ddim aros i symud i mewn yn nes ymlaen.”
– Un o drigolion newydd Hostel St John’s
“Rydych chi fel teulu i mi. Rydych chi’n gofalu amdanaf, rydych chi’n mynd i fy rhoi i’n ôl ar y trywydd iawn.”
– Un o drigolion St John’s yn siarad â staff cymorth
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.
