Hostel Tŷ Nesaf

14 Queens Road, Aberystwyth, SY23 2HJ

Ceredigion

01970 625 022

Prosiect lleihau niwed yn Aberystwyth yw gwasanaeth Tŷ Nesaf y Wallich

Mae’n darparu llety â chymorth i unigolion 18 oed a throsodd sydd ag anghenion cymhleth.

Mae’r prosiect yn ceisio gweithio gyda’r preswylwyr i’w helpu i leihau gwahanol fathau o niwed sy’n digwydd yn eu bywydau.

Mae hyn yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a throseddu dro ar ôl tro.

O ganlyniad, mae’r prosiect o fudd i’r ardal leol, oherwydd profwyd ei fod yn lleihau’r effaith negyddol y gall yr unigolion hyn ei gael ar y gymuned yn gyffredinol a lleihau straen ar wasanaethau brys lleol megis galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans neu’r heddlu.

Tŷ Nesaf

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Tŷ Nesaf yng Ngheredigion, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig