Mae tywydd poeth yn gallu bod yn beryglus, yn enwedig i bobl sy’n cysgu allan. Heb fynediad priodol at gysgod, toiledau, dŵr neu eli haul, mae dyddiau poeth yr haf yn hir ac yn beryglus.
Os gwelwch chi rywun yn cysgu allan yn eich ardal leol, dyma ambell beth gallwch chi ei wneud i’w helpu i gadw’n ddiogel yn y gwres:
Mae yfed digon o ddŵr yn hanfodol. Gallech hefyd gynnig bwyd sy’n cynnwys llawer o ddŵr fel melon dŵr neu fefus.
Mae’n helpu i leihau’r risg o losg haul a thrawiad haul.
Mae’n cynnig cysgod a gwarchodaeth.
Gofynnwch sut maen nhw’n teimlo, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Byddwch yn garedig ac yn barchus. Os bydd rhywun yn edrych yn sâl neu angen help ar frys, ffoniwch 999 neu rhowch wybod i’r gwasanaethau cyhoeddus.
Awgrymwch lefydd fel The Wallich, llyfrgelloedd, neu adeiladau cyhoeddus eraill lle gall pobl fynd o lygad yr haul yn ystod adegau poethaf y dydd.
Mae ein canolfannau galw heibio Atebion yn cynnig cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, dŵr a llefydd oer i bobl sy’n cysgu allan, ac mae gennym ganolfannau yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Cheredigion.
Mae ein Gwasanaeth Cefnogi Digartrefedd ar y Stryd yn Hwlffordd hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ar y stryd.
Mae mynediad at gawodydd neu hyd yn oed weips yn helpu i leihau’r risg o haint, yn enwedig os oes gan rywun glwyfau neu anafiadau’n barod.
Mae’r risgiau’n cynyddu mewn tywydd poeth. Anogwch bobl i beidio â defnyddio cyffuriau cryf ac i gymryd pwyll, peidio â chymysgu cyffuriau ac alcohol, a pheidio â defnyddio cyffuriau ar eu pen eu hunain.
Cadwch anifeiliaid yn oer, mewn cysgod a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael digon o ddŵr.