Ymchwil

Mae ein tîm ymchwil a pholisi yn cynhyrchu adroddiadau manwl ynglŷn â digartrefedd a materion cysylltiedig yng Nghymru

Mae digartrefedd yn fater cymhleth, gyda llawer o ffactorau yn cyfrannu at bam y mae rhywun yn ddigartref.

Mae bod yn ddigartref yn effeithio ar lawer rhan o fywyd unigolyn, gan effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a’u gallu i ddod o hyd i waith, a gall arwain at gynnydd mewn aildroseddu i’r rhai hynny gyda gorffennol troseddol.

 

Adroddiadau Diweddaraf

 

Rydym yn gwneud ymchwil gyda’n defnyddwyr gwasanaethau er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â digartrefedd, yn ogystal â chomisiynu ymchwilwyr allanol i ymgymryd â phrosiectau mwy.

Rydym yn defnyddio’r hyn yr ydym yn ei ddysgu er mwyn dylanwadu ar y rhai hynny sydd â’r grym i wneud bywydau yn well ar gyfer pobl ddigartref yng Nghymru drwy awgrymu yn rhagweithiol sut y gellir gwella gwasanaethau ac ymateb i gynghorau a Llywodraeth Cymru pan maen nhw’n gofyn am wybodaeth.

At a Glance 2017
01 Feb 2018

Adroddiad Blynyddol: Cipolwg ar 2017

Edrych yn ôl ar ffeithiau ac ystadegau allweddol 2017.