Caerdydd a'r Fro
iori@choirwithnoname.org

Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio’r côr newydd hwn, mewn partneriaeth â’n ffrindiau yn y Côr heb Enw.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl y mae digartrefedd ac unigrwydd wedi effeithio arnyn nhw yng Nghaerdydd.

Nid oes rhaid talu i ymuno â’r côr ac nid oes angen unrhyw brofiad canu arnoch – dim ond galw draw.
Rydyn ni’n canu pob math o gerddoriaeth, gan gynnwys pop, soul, roc, reggae a mwy.
Mae côr Caerdydd yn seiliedig ar y syniad bod canu mewn côr yn rhoi hwb i chi, yn tynnu eich sylw oddi ar fywyd bob dydd, ac yn eich galluogi i fod yn rhan o gymuned hwyliog a chroesawgar.
Helo, Alex ydw i, a fi yw Rheolwr Côr heb Enw Caerdydd. Rwyf wedi treulio dros 25 mlynedd yn gweithio ym meysydd cerddoriaeth, y celfyddydau, codi arian i elusennau a gofal iechyd, ond y thema gyffredin drwy’r cyfan yw cymuned a gwneud gwahaniaeth. Rydw i wrth fy modd yn creu mannau croesawgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a’u bod yn gallu serennu.
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan o fy mywyd ers dros dri degawd. Rwyf wedi perfformio mewn neuaddau cyngerdd ledled y DU a thramor, gan gynnwys sawl ymddangosiad yn Neuadd Frenhinol Albert, ac rwyf hefyd yn Rheolwr band pres yng Nghaerdydd. Rwy’n mwynhau dod â phobl at ei gilydd drwy gerddoriaeth, boed hynny ar y llwyfan, wrth ymarfer, neu yng nghalon cymuned.
Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Côr Heb Enw Caerdydd, côr cymunedol gwirioneddol arbennig sy’n darparu lle diogel a chroesawgar i bobl sydd wedi profi digartrefedd a chaledi.
Mae canu gyda’n gilydd yn gallu gwella lles, magu hyder, a chreu ymdeimlad go iawn o berthyn, a dyna’r union beth sy’n digwydd yma yng Nghaerdydd. Mae’n deulu. Mae’n llon. Mae’n codi calon.
Gydag arweiniad ysbrydoledig gan Iori Phillip Haugen a chyfeiliant gwych gan Benjamin Teague Music, mae pob sesiwn yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Ac i goroni’r cyfan, rydyn ni’n gorffen pob ymarfer drwy eistedd gyda’n gilydd i gael pryd poeth am ddim, wedi’i ddarparu’n hael gan ein gwirfoddolwyr anhygoel.
Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai elwa o ymuno, neu os hoffech chi i ni ganu mewn digwyddiad neu gydweithio ar gyngerdd, cysylltwch â ni, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi!
Er nad oes pwysau i fod yn bresennol, byddai’n ddefnyddiol pe bai defnyddwyr gwasanaeth (neu eu gweithwyr cefnogi) yn gallu rhoi gwybod i ni os ydyn nhw’n bwriadu dod i’r sesiwn gyntaf.
Mae’r côr yn agored i bobl o unrhyw wasanaeth, nid gwasanaeth The Wallich yn unig.
Bydd disgwyl i bawb sy’n bresennol ddilyn y gweithdrefnau diogelwch COVID sydd ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
“Sut bynnag dw i’n teimlo, mae’r croeso cynnes dw i’n ei gael bob amser yn codi fy nghalon. Mae bod yn rhan o’r côr yn help emosiynol i mi, a phryd bynnag byddaf yn teimlo’n isel mae canu yn codi fy ysbryd.”
– Aelod o’r Côr heb Enw