Ymgyrchoedd

Ydych chi’n frwd dros wneud newid gwirioneddol a pharhaol i bobl y mae materion cymdeithasol fel digartrefedd, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu gyfiawnder troseddol yn effeithio arnynt?

Os felly, cymerwch gip ar ein hymgyrchoedd diweddaraf sy’n herio’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i leihau niwed a gwella ansawdd bywyd y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Darllenwch, dysgwch a chymerwch ran heddiw.

Maniffesto Wallich
08 Dec 2025

Maniffesto Wallich ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2026

Bydd llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio ar ôl etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, a bydd ganddi ran bwysig i’w chwarae yn yr ymgais i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym yn galw ar bwy bynnag sy'n ei ffurfio i ymrwymo i gyflawni ein pedair blaenoriaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd.