Castell-nedd Port Talbot, Neath
nptpaws@thewallich.net
01639 642 202

Mae’r preswylwyr yn cael cymorth i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol cyn symud ymlaen i dai mwy parhaol.
Mae digartrefedd wedi effeithio ar y bobl sy’n byw gyda ni mewn llety dros dro.
Mae 7 uned breswyl yn Tŷ Castell; ac mae gan bob un oergell ac ystafell ymolchi en-suite.
Mae preswylwyr Tŷ Castell yn cael mynediad at gegin gymunedol ac ardal fwyta, ardal awyr agored a chyfleusterau golchi dillad.
Mae’r adeilad mewn lleoliad canolog yn Llansawel, ac yn agos at amwynderau lleol.
Mae staff Tŷ Castell yn sicrhau bod rhoi cymorth i’n preswylwyr ac i’r gymuned leol, yn ogystal â’u cadw yn ddiogel, yn flaenoriaeth bob amser.
Mae Tŷ Castell yn cael ei gefnogi gan Wasanaeth Atal a Llesiant The Wallich yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rydym ni’n rhoi to uwch ben unigolion ac yn darparu’r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i symud i mewn, ond mae The Wallich hefyd yn gweithio gyda phobl i osod targedau ar gyfer eu dyfodol.
Rydym ni’n gweithio gyda phobl i nodi pa sgiliau, perthnasoedd a hyder y gallan nhw eu datblygu.
Mae pawb sy’n byw yn Tŷ Castell yn cael mynediad at wasanaethau eraill The Wallich, gan gynnwys ein gwasanaeth cwnsela mewnol, sef Y Rhwydwaith Myfyrio.
Cynhelir gweithdai a gweithgareddau meithrin sgiliau fel coginio a chyllidebu yn aml er mwyn helpu pobl i fyw’n gymunedol.
Mae staff Tŷ Castell yn sicrhau bod gweithgareddau trawsnewidiol ar gael i wella llesiant, yn ogystal â chynnal cyfarfodydd tŷ i gyfryngu perthnasoedd a chyd-greu gweithgareddau hwyliog.
Mae The Wallich yn credu bod pobl ddigartref a phobl sy’n agored i niwed yn unigolion sydd ag anghenion amrywiol o ran pa gymorth sydd eu hangen arnynt.
Mae wedi ei brofi bod byw mewn Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.
Rydym ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Tŷ Castell yn Llansawel, a darparu cymorth sy’n gweddu i anghenion unigolion.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i gael gwybodaeth atgyfeirio, cysylltwch â ni.