Ceredigion
CeredigionResidential@thewallich.net
01970 612 736
Mae Stryd y Gorfforaeth yn darparu tai â chymorth i bobl ag anghenion cymhleth, a llety i bobl sydd angen lefel isel o gymorth wrth iddyn nhw fynd yn fwy annibynnol.

Mae 11 ystafell wely i gyd, a chaiff y preswylwyr ddefnyddio ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau a rennir.
Mae hyd yr arhosiad yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion pob preswylydd o ran cael cymorth ac a oes llety addas ar gael iddyn nhw symud ymlaen iddo.
Rydym yn helpu’r preswylwyr i gael mwy o reolaeth dros y materion sy’n effeithio ar eu bywydau, dod i ddeall y materion hyn yn well a gwneud rhywbeth yn eu cylch, er mwyn cael yr annibyniaeth sydd ei hangen arnyn nhw i reoli eu llety eu hunain.
Rydym yn cefnogi preswylwyr gyda’r canlynol:
- Gwneud cais am fudd-daliadau a datrys problemau yn ymwneud â budd-daliadau
- Sgiliau cyllidebu
- Cael gafael ar wasanaethau cyffuriau ac alcohol
- Cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol
- Lleihau niwed
- Help i beidio â mynd yn ôl at hen arferion
- Chwilio am lety annibynnol
Rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â nifer o asiantaethau sy’n bartneriaid, gan gynnwys adran dai Cyngor Sir Ceredigion, y gwasanaeth prawf, Tîm Rheoli Troseddwyr Integredig yr heddlu, DDAS a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.
Gall preswylwyr yn Stryd y Gorfforaeth gael mynediad at y Rhwydwaith Myfyrio ar gyfer cwnsela a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r tîm Llesiant ac Ymgysylltu.
Mae The Wallich yn credu bod pobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn unigolion ag anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol. Yn ôl ymchwil, mae byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.
Rydym yn awyddus i ddarparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma sy’n cysylltu pobl â chymorth addas iddyn nhw.
Sut mae cael lle
Mae pob atgyfeiriad ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei wneud drwy Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.
