Stryd y Gorfforaeth

Corporation Street, Aberystwyth, SY23 2BT

Ceredigion

01970 612 736

Mae Stryd y Gorfforaeth yn darparu tai â chymorth i bobl ag anghenion cymhleth, a llety i bobl sydd angen lefel isel o gymorth wrth iddyn nhw fynd yn fwy annibynnol.

Stryd y Gorfforaeth

Mae 11 ystafell wely i gyd, a chaiff y preswylwyr ddefnyddio ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau a rennir.

Mae hyd yr arhosiad yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion pob preswylydd o ran cael cymorth ac a oes llety addas ar gael iddyn nhw symud ymlaen iddo.

Rydym yn helpu’r preswylwyr i gael mwy o reolaeth dros y materion sy’n effeithio ar eu bywydau, dod i ddeall y materion hyn yn well a gwneud rhywbeth yn eu cylch, er mwyn cael yr annibyniaeth sydd ei hangen arnyn nhw i reoli eu llety eu hunain.

Rydym yn cefnogi preswylwyr gyda’r canlynol:

Rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â nifer o asiantaethau sy’n bartneriaid, gan gynnwys adran dai Cyngor Sir Ceredigion, y gwasanaeth prawf, Tîm Rheoli Troseddwyr Integredig yr heddlu, DDAS a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

Gall preswylwyr yn Stryd y Gorfforaeth gael mynediad at y Rhwydwaith Myfyrio ar gyfer cwnsela a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r tîm Llesiant ac Ymgysylltu.

Mae The Wallich yn credu bod pobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn unigolion ag anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol. Yn ôl ymchwil, mae byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.

Rydym yn awyddus i ddarparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma sy’n cysylltu pobl â chymorth addas iddyn nhw.

Sut mae cael lle

Mae pob atgyfeiriad ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei wneud drwy Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.

Tudalennau cysylltiedig